Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05Cynlluniau Datblygu LleolBydd yn ofynnol o dan y system newydd o Fframweithiau Datblygu Newydd, a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol, i benodi Arolygydd i archwilio p'un a yw'r Datganiadau Cynnwys Cymunedau a Dogfennau Cynlluniau Datblygu a gyflwynwyd yn gadarn. Bydd adroddiadau Arolygwyr i awdurdodau cynllunio lleol yn gyfrwymol. Rhagwelir y bydd yn ofynnol i fwy na 250 o awdurdodau cynllunio lleol dros y tair blynedd nesaf baratoi Fframweithiau Datblygu Lleol y bydd angen eu cymeradwyo o dan y trefniadau newydd. Mae hwn yn faes gwaith hollol newydd i'r Arolygiaeth a dim ond ar ôl i bob awdurdod cynllunio lleol gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol yng ngwanwyn 2005 y daeth yn hysbys faint o waith sydd ynghlwm wrtho. Dengys y rhagamcanion presennol yn seiliedig ar gronfa ddata'r Fframweithiau Datblygu Lleol a ddelir gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i'r Arolygiaeth, yn ogystal â'r ymchwiliadau i'r hen fath o gynlluniau datblygu, ymdrin â niferoedd mawr iawn o archwiliadau o dan y ddeddfwriaeth newydd. Dengys Tabl 2, fel ag yr oedd ar ddiwedd Mai 2005, nifer y Dogfennau Cynlluniau Datblygu a Datganiadau Cynnwys Cymunedau y mae angen eu harchwilio. Dogfennau Cynlluniau Datblygu a Datganiadau Cynnwys Cymunedau y mae angen eu harchwilio - 2005/06 - 2007/08
* nifer wirioneddol neu a geisiwyd ar ddiwedd Mai 2005. Mae'n cynnwys Archwiliadau Cyhoeddus i Gynlluniau Fframwaith/Arweiniad Rhanbarthol #yn seiliedig ar ffigurau a geir yng nghronfa ddata Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog ar 31 Mai 2005 Mae rhagamcanion awdurdodau lleol yngl n â chyflwyno datganiadau cynnwys cymunedau a dogfennau cynlluniau datblygu yn ffigurau 7 a 8. Disgwylir i nifer fawr o ddatganiadau cynnwys cymunedau gael eu cyflwyno yn ystod gaeaf 2005-06 gyda'r mwyafrif llethol yn cael eu cyflwyno rhwng mis Awst 2005 a mis Hydref 2006. Bydd dogfennau cynlluniau datblygu yn dilyn o wanwyn 2006 ymlaen. Mae awdurdodau lleol yn rhagweld y byddant yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod o dair blynedd o ddechrau 2006 hyd hydref 2008 yn bennaf.
Mae'r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg ar y sefyllfa ar y pryd. Mae'r gofyniad i gyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol yn elfen newydd yn y broses cynlluniau datblygu ac mae'n ymarfer a gaiff ei gynnal yn flynyddol. Y disgwyl yw y bydd awdurdodau cynllunio lleol yn adolygu eu cynlluniau datblygu lleol yn barhaol. Yn yr un modd, bydd yr Arolygiaeth yn adolygu gofynion y llwyth gwaith yng ngoleuni profiad a'r disgwyl yw y bydd y sefyllfa yn dod yn llawer mwy eglur yn ystod y flwyddyn wrth i'r system ymsefydlu. Eto i gyd, mae'r Arolygiaeth yn dechrau ar ymarfer recriwtio mawr yn haf/hydref 2005 yn ogystal â sefydlu rhaglen dysgu a datblygu ar gyfer yr Arolygwyr presennol cyn i'r archwiliadau cyhoeddus newydd cyntaf gael eu cynnal. Bydd angen i'r Arolygiaeth sicrhau hefyd ei bod yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael eisoes. Yn arbennig, bydd yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella'r ffordd y caiff adnoddau Arolygwyr eu defnyddio, er mwyn gwneud y gwelliannau mwyaf posibl mewn cynhyrchiant a rheoli'r galw.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |