Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Rheoli'r galw

Gall "rheoli'r galw" gwmpasu nifer fawr o fesurau posibl. Cyfeiriwyd eisoes at gynllun i leihau nifer yr apelyddion sy'n dewis cael gwrandawiadau, sy'n defnyddio mwy o adnoddau, yn hytrach na chyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig fel dull o benderfynu ar apêl. Mae'r Arolygiaeth, mewn cydweithrediad â Swyddfa'r Brif Ddirprwy Weinidog, hefyd wedi comisiynu adolygiad, a gynhaliwyd gan Les Sparks, cyn-Swyddog Cynllunio Dinas Birmingham, i ystyried sut yr ymdrinnir â mân apeliadau neu apeliadau 'deilad t ' fel y'u gelwir. Mae'r rhain yn cyfrif am un o bob tair apêl adran 78. Cyflwynodd Adolygiad Sparks ei adroddiad ym mis Tachwedd 2004 ac fel mater o flaenoriaeth bydd yr Arolygiaeth yn gweithredu ar ei argymhellion i geisio darparu'r gwasanaeth hwn yn gyflymach, yn rhatach ac yn fwy effeithlon yn y tymor hwy.

Waeth beth fo lefel yr apeliadau yn y dyfodol, mae angen archwiliad sylfaenol o'r ffordd y mae'r Arolygiaeth yn gweithio i ddileu'r ôl-groniad, ei atal rhag codi eto ac adfer perfformiad yr Arolygiaeth yn erbyn targedau. Yn benodol, rhaid wrth lawer mwy o bwyslais ar gynhyrchiant yn y dyfodol. Mae'r Arolygiaeth yn rhoi gwerth ar ei henw da am safon, ond mae angen adeiladu ar yr enw da hwnnw mewn hinsawdd sy'n llai amharod i fentro ac yn fwy parod i arloesi.

Mae'r Arolygiaeth yn ymrwymedig i nodi'r ffactorau sy'n ysgogi newid ac i chwilio am ffyrdd o wella ei pherfformiad a thrwy hynny ddarparu gwell gwasanaeth i'w chwsmeriaid.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English