Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

23. Offerynnau Ariannol

Mae FRS 13, Derivatives and Other Financial Instruments , yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl a chwaraeodd offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o greu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth gynnal ei weithgareddau. Oherwydd natur cwbl anfasnachol ei gweithgareddau a'r modd y caiff asiantaethau gweithredol eu hariannu, ni chaiff yr Arolygiaeth Gynllunio ei hamlygu i'r un graddau o risg ariannol y mae endidau busnes eraill yn eu hwynebu. At hynny, mae offerynnau ariannol yn chwarae rhan llawer fwy cyfyngedig o ran creu neu newid risg na fyddai'n nodweddiadol o'r cwmnïau rhestredig y mae FRS 13 yn bennaf yn berthnasol iddynt. Nid oes gan yr Arolygiaeth bwerau i fenthyg neu fuddsoddi arian dros ben ac nid yw'n cynnal unrhyw drafodion mewn arian cyfred tramor. Cynhyrchir asedau a rhwymedigaethau ariannol gan weithgareddau gweithredol o ddydd i ddydd ac nid ystyrir eu bod yn newid y risgiau y mae'r Arolygiaeth yn eu hwynebu wrth gynnal ei gweithgareddau.

Fel y caniateir gan FRS 13, mae dyledwyr a chredydwyr sydd wedi aeddfedu neu sy'n daladwy o fewn 12 mis o ddyddiad y Fantolen wedi eu hepgor o'r proffil arian cyfred.

Risg ymddatodiad

Ariennir yr Arolygiaeth gan adnoddau y pleidleisir arnynt yn flynyddol gan y Senedd, a ariennir drwy gyfrif adnoddau Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog. Nid amlygir yr Arolygiaeth Gynllunio felly i unrhyw risgiau ymddatodiad.

Risg cyfradd llog

Nid amlygir yr Arolygiaeth Gynllunio i unrhyw risg cyfradd llog gan nad oes ganddi unrhyw falansau arian parod.

Risg arian cyfred tramor

Nid amlygir yr Arolygiaeth Gynllunio i unrhyw risg arian cyfred tramor arwyddocaol.

Gwerthoedd teg

Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng gwerth llyfr a gwerth teg unrhyw un o asedau a rhwymedigaethau ariannol yr Arolygiaeth ar 31 Mawrth 2005.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English