Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Nodiadau i'r Cyfrifon

 

1. Datganiad o bolisïau cyfrifo

Paratowyd y datganiadau ariannol yn unol â'r Llawlyfr Cyfrifo Adnoddau 2004/05 a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM. Mae'r polisïau cyfrifo a gaiff eu cynnwys yn y Llawlyfr yn dilyn Arfer Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y DU ar gyfer cwmnïau i'r graddau y mae'n ystyrlon a phriodol i'r sector cyhoeddus. Pan fo'r Llawlyfr yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifo, dewiswyd y polisi cyfrifo y barnwyd ei fod yn fwyaf priodol i amgylchiadau arbennig yr Arolygiaeth at ddiben rhoi barn gywir a theg. Cafodd polisïau cyfrifo'r Arolygiaeth eu cymhwyso'n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyriwyd eu bod yn berthnasol mewn perthynas â'r cyfrifon.

1.1 Confensiwn cyfrifo

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol a addaswyd i roi cyfrif ar gyfer adbrisio asedau sefydlog ar eu gwerth i'r busnes drwy gyfeirio at eu costau cyfredol.

1.2 Asedau sefydlog diriaethol

Pennir asedau sefydlog diriaethol ar y gost cyfnewid is a'r swm adenilladwy. Pan gânt eu cydnabod gyntaf, fe'u mesurir am eu pris cost gan gynnwys unrhyw gostau megis gosod y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i'r gwaith o'u hadfer i gyflwr gwaith. Ailddatgenir pob ased sefydlog diriaethol ar eu gwerth cyfredol bob blwyddyn, gan ddefnyddio mynegrifau a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy'n briodol i gategori'r ased. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r ailddatganiad hwn wedi cynnwys meddalwedd a ddatblygwyd yn fewnol. Fodd bynnag, mae'r polisi hwn wedi'i adolygu er mwyn sicrhau bod ein polisïau cyfrifyddu yn cydymffurfio â Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog i adlewyrchu'r ffaith bod meddalwedd mewnol yn cael ei uwchraddio'n gyson heb fynd i gostau ychwanegol. Yn sgîl hyn, mae gwerth meddalwedd mewnol wedi'i ailbrisio ar ei gost hanesyddol. Y lefel leiaf ar gyfer cyfalafu ased sefydlog diriaethol yw £3,000, ac yn achos mân galedwedd cyfrifiadur gallai hyn fod yn grwp o asedau. Mae eitemau sy'n is na'r gwerth hwn yn cael eu nodi fel treuliau a ddangosir yn y Datganiad Costau Gweithredu.

Mae gwariant ar ddodrefn, ffitiadau a gosodiadau yn cael ei nodi fel cost yn y Datganiad Costau Gweithredu.

1.3 Dibrisiad

Dibrisir asedau sefydlog diriaethol ar gyfraddau a gyfrifir er mwyn dileu cost yr ased dros ei fywyd defnyddiol disgwyliedig ar sail llinell syth, fel a ganlyn:

  Bywyd mewn blynyddoedd
Meddalwedd mewnol    5
Caledwedd cyfrifiadurol 4
Meddalwedd cyfrifiadurol 3

Caiff asedau sydd wrthi'n cael eu hadeiladu eu dibrisio o'r adeg pan ddechreuir defnyddio'r ased.

Mae datblygu meddalwedd yn ymwneud â datblygu systemau cyfrifiadurol strategol yn fewnol a fydd yn cynorthwyo yn y gwaith o weinyddu gwaith achos a darparu gwybodaeth busnes. Cynhelir costau, gan gynnwys y rhai sydd wedi eu priodoli i is-brojectau unigol, sy'n berthnasol i gamau datblygu cynnar y project ar y fantolen ar eu cost hanesyddol hyd nes i'r project neu'r is-broject gael ei weithredu, wedi hyn cânt eu dibrisio yn gyson, dros bum mlynedd, a byddant yn destun adbrisiad blynyddol.

1.4 Gwaith sy'n mynd rhagddo

Yn unol â Safon Adrodd Ariannol (FRS) 5, yn weithredol o fis Ebrill 2004, caiff gwaith yr ymdriniwyd ag ef yn fla enorol fel gwaith sy'n mynd rhagddo ei drin fel incwm cronedig a'i gynnwys yn y ffigur dyledwyr ar y Fantolen (Gweler nodyn 11). Mae hwn wedi'i drin fel addasiad i'r cyfnod blaenorol yn unol â FRS 3 ac mae'r ffigurau cymharol ar gyfer 2003/04 wedi'u hailddatgan (gweler nodyn 18).

1.5 Incwm gweithredu

Cyfrifir incwm fel gwerth y gwasanaethau a ddarperir o weithgareddau arferol yr Arolygiaeth a gwblhawyd yn ystod blwyddyn ariannol. Yn achos ymchwiliadau cynllun datblygu, a all ymestyn dros nifer o flynyddoedd ariannol, bydd hyn yn cynnwys gwaith a gwblhawyd hyd at gam interim yn ogystal ag ymchwiliadau sydd wedi'u cwblhau'n llawn.

1.6  Categorïau gwariant

Dadansoddiad o gostau gweinyddol a chostau rhaglen yw'r datganiad costau gweithredu. Mae costau gweinyddol yn adlewyrchu costau rhedeg yr Arolygiaeth. Mae costau rhaglen yn cyfeirio at gyflwyno'r system Porth Cynllunio. Mae'r ddau yn rhan o'r Terfyn Gwariant Adrannol (DEL).

1.7 Cost tâl cyfalaf

Caiff tâl, sy'n adlewyrchu cost cyfalaf a ddefnyddiwyd gan yr Arolygiaeth, ei gynnwys yn y costau gweithredu. Cyfrifir y tâl ar gyfradd safonol y llywodraeth o 3.5 y cant mewn termau gwirioneddol ar gyfartaledd cyfanswm yr holl asedau llai rhwymedigaethau.

1.8 Pensiynau

Cwmpesir cyn weithwyr a gweithwyr presennol gan ddarpariaethau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (CSPS) ac amlinellir manylion y cynllun hwn yn Nodyn 2. Mae'r Arolygiaeth yn cydnabod y gost ddisgwyliedig o ddarparu pensiynau ar sail systematig a rhesymol yn ystod y cyfnod y bydd yn elwa ar wasanaethau cyflogeion drwy wneud taliadau o symiau i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil a gyfrifir ar sail gronnol. Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy'n atebol am dalu buddiannau yn y dyfodol.

1.9 Prydlesi Gewithredu

Codir rhent ar y prydlesi gweithredu ar y Datganiad Costau Gweithredu ar sail llinell syth dros fywyd y brydles.

1.10 Darpariaethau

Mae'r Arolygiaeth yn darparu ar gyfer rhwymedigaethau cyfreithiol neu adeiladol sydd ag amseriad neu swm ansicr ar adeg dyddiad y fantolen ar sail yr amcangyfrif gorau o'r gwariant sydd ei angen i setlo'r rhwymedigaeth.

1.11 Treth Ar Werth

Mae'r rhan fwyaf o weithgareddau'r Arolygiaeth y tu allan i faes TAW ac yn gyffredinol nid yw treth allbwn yn gymwys ac nid yw treth fewnbwn ar bryniannau yn adenilladwy, ac eithrio o dan delerau Cyfarwyddyd y Trysorlys o dan adran 41(3) Deddf Treth Ar Werth (VATA) 1994. Codir TAW na ellir ei hadennill ar y categori gwariant perthnasol neu caiff ei chynnwys yng nghost prynu cyfalaf asedau sefydlog. Pan godir treth allbwn neu pan fo TAW yn adenilladwy dangosir y symiau heb gynnwys TAW.

Nid yw'r Arolygiaeth wedi ei chofrestru ar gyfer TAW ar wahân ond mae'n gweithredu o dan rif cofrestru TAW Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.

1.12 Costau Tybiannol

Yn unol ag Arweiniad y Trysorlys i Ffioedd a Thaliadau, caiff costau tybiannol ar y gyfradd briodol eu cynnwys ar gyfer ffioedd archwilio a gwasanaethau a ddarperir gan Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog.

1.13 Costau Ymadawiad Cynnar

O dan drefniadau oedd mewn grym hyd at 31 Mawrth 1997, talwyd 20% o gost ymadawiadau cynnar fel arfer gan yr Arolygiaeth a thalwyd yr 80% a oedd yn weddill gan y Bleidlais Pensiwn Sifil. Ar gyfer penderfyniadau ymadawiad ar ôl y dyddiad hwnnw, caiff y gost lawn ei thalu gan yr Arolygiaeth.

Polisi'r Llywodraeth yw cynnwys cost lawn gweithgareddau'r Asiantaeth yn ei chyfrifon hyd yn oed, fel yn yr achos hwn, lle y caiff rhai o'r costau hyn eu hysgwyddo gan rannau eraill o'r Llywodraeth. Arfer cyfrifo cyffredin yw darparu ar gyfer cost lawn ymadawiad cynnar gweithwyr yn y flwyddyn y gwneir y penderfyniad am ymadawiad cynnar. Caiff yr elfen sy'n cael ei hysgwyddo gan yr Arolygiaeth ei chodi ar y Datganiad Costau Gweithredu ar unwaith a darperir ar ei chyfer ar y Fantolen. Am fwy o fanylion gweler nodyn 13.

1.14 Ceisiadau Cynllunio Tybiedig

Datgelir y ffioedd a delir gan apelyddion ar gyfer ystyried cais cynllunio tybiedig yn y Fantolen fel dyledwr a chredydwr nes fod yr apêl wedi'i phenderfynu, pan fydd y ffi naill ai yn cael ei dychwelyd i'r apelydd neu'n cael ei thalu fel Derbyniad Ychwanegol i'r Gronfa Gyfunol (CFER) (gweler nodyn 21).

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English