Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Addasiad i'r cyfnod blaenorol

Cyn 2004/05, ymdriniwyd ag amser penodedig Arolygwyr a oedd yn ymwneud â chamau nas cwblhawyd o ymholiadau'r Cynllun Datblygu fel gwaith sy'n mynd rhagddo. Newidiwyd y polisi hwn yn 2004/05 i gydymffurfio â'r broses o gyflwyno Nodyn Cais G FRS5 "Cydnabod Refeniw", a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2003. Paratowyd y Nodyn Cais mewn ymateb i'r angen i sicrhau eglurder mewn perthynas â chwestiynau sy'n codi ynghylch y modd yr ymdrinnir â refeniw. Mae'r Nodyn yn datgan bod "gwerthwr yn cydnabod refeniw o dan drafodyn cyfnewid gyda chwsmer pan, ac i'r graddau y bydd yn cael yr hawl i gydnabyddiaeth yn gyfnewid am ei berfformiad. Ar yr un pryd, mae fel arfer yn cydnabod ased newydd, dyledwr fel arfer." Yn unol â FRS5, sy'n weithredol o fis Ebrill 2004, ymdrinnir â gwaith yr ymdriniwyd ag ef yn fla enorol fel gwaith sy'n mynd rhagddo fel incwm cronedig a chaiff ei gynnwys yn y ffigur dyledwyr ar y Fantolen (Gweler nodyn 11). Mae hwn wedi'i drin fel addasiad i'r cyfnod blaenorol yn unol â FRS3 ac mae ffigurau cymharol ar gyfer 2003/04 wedi'u hailddatgan, gan arwain at leihad yn y gwaith sy'n mynd rhagddo a chynnydd o £2.322m mewn dyledwyr.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English