Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Datganiad o Gyfrifoldebau'r Arolygiaeth a'r Prif Weithredwr

O dan Adran 7 Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 mae'r Trysorlys wedi gorchymyn i'r Arolygiaeth Gynllunio baratoi datganiad o'r cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y cyfarwyddyd cyfrifon. Paratoir y cyfrifon ar sail gronnus ac mae'n rhaid iddynt roi golwg wir a theg o faterion yr Arolygiaeth ar ddiwedd y flwyddyn, ei chostau gweithredu net a'i llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon mae'n ofynnol i'r Arolygiaeth:

  • ufuddhau i'r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan y Trysorlys, gan gynnwys y gofynion cyfrifo a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifo addas yn gyson;
  • barnu a gwneud amcangyfrifon ar sail resymol;
  • nodi a ddilynwyd safonau cyfrifo cymwys, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau materol yn y datganiadau ariannol;
  • paratoi'r datganiadau ariannol ar y sail busnes parhaus, oni bai ei bod yn amhriodol i dybio y bydd yr Arolygiaeth yn parhau i weithredu.

Mae'r Swyddog Cyfrifo Adrannol wedi penodi'r Prif Weithredwr fel y Swyddog Cyfrifo ar gyfer yr Arolygiaeth. Mae ei chyfrifoldebau perthnasol fel Swyddog Cyfrifo, yn cynnwys ei chyfrifoldeb dros wedduster a rheoleidd-dra yr arian cyhoeddus y mae hi'n atebol drosto a thros gadw cofnodion cywir ac am ddiogelu asedau'r Arolygiaeth, wedi eu nodi ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifo, a gyflwynwyd gan y Trysorlys ac a gyhoeddwyd yn "Government Accounting" (Y Llyfrfa) ac ym Memorandwm Ariannol yr Arolygiaeth.

 

Katrine Sporle
Prif Weithredwr
28 Mehefin 2005

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English