Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Back button next button contents page

Llwyth gwaith a thargedau

Apeliadau cynllunio a ddaeth i law

Mae'r graff yn ffigur 1 yn dangos y twf yn nifer yr apeliadau cynllunio sydd wedi dod i law dros y blynyddoeddd 2001/02 - 2004/05.

figgur 1

Bob blwyddyn mae nifer yr apeliadau sy'n dod i law wedi cynyddu: o 16,737 yn 2001/02, i 18,598 yn 2002/03, i 22,552 yn 2003/04 ac, yn 2004/05, i 23,161 Dros y cyfnod o bedair blynedd mae nifer yr apeliadau sy'n dod i law wedi cynyddu tua 38%.

Un nodwedd drawiadol ar lwyth gwaith yr Arolygiaeth fu'r cynnydd sydyn yn nifer yr apeliadau a ddaeth i law. Dechreuodd ym mis Tachwedd 2003 (ar ôl i'r cyfnod apelio ostwng o 6 mis i 3 mis) a daeth i ben erbyn Mawrth 2004 (ar ôl dychwelyd i'r cyfnod apelio 6 mis). Ym mis Medi 2003 cynyddodd nifer yr apeliadau yn sylweddol i fwy na 2,000 y mis ar gyfartaledd o fis Ionawr 2003 tan fis Rhagfyr 2004. Mae'r niferoedd misol wedi gostwng yn gyson i ychydig dros 1,300 ym mis Mawrth 2005. Darlunnir hyn orau yn y graff yn ffigur 2 isod.

figgur 2

O ganlyniad i'r twf yn nifer yr apeliadau yn dod i law, cafwyd ôl-groniad o apeliadau i'w penderfynu drwy gynrychioliadau ysgrifenedig a bu oedi annerbyniol cyn penderfynu ar apeliadau apelyddion. Gwnaed nifer o newidiadau o ran polisi, gweithdrefnau a newidiadau eraill a oedd yn galluogi'r Arolygiaeth i leihau'r ôl-groniad; ar ddechrau mis Tachwedd 2004, cafwyd ôl-groniad o 4,347 o achosion ac erbyn diwedd mis Mai 2005 roedd y ffigur hwnnw wedi gostwng i tua 1,800 o achosion, sef haneru'r ôl-groniad hwn o fewn 6 mis. Yn seiliedig ar y rhagamcanion diweddaraf, amcangyfrifir y bydd yr ôl-groniad o apeliadau cynllunio i'w penderfynu drwy gynrychioliadau ysgrifenedig yn gostwng i tua 600 o achosion erbyn mis Gorffennaf 2005 ac ni fydd dim ôl-groniad yn fuan wedyn.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English