Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Rheoli Risg

Mae'r Arolygiaeth yn ymrwymedig i sicrhau y nodir risgiau allweddol i'r sefydliad ac y cymerir camau i'w lleihau neu eu dileu os ydynt yn codi. Mae'r risgiau mwyaf wedi'u cynnwys yn y Gofrestr Risgiau Strategol a fonitrir gan y Bwrdd Rheoli Strategol a'r Pwyllgor Archwilio. Mae'r Gofrestr yn nodi risgiau mewn gwahanol rannau o'r Arolygiaeth, ynghyd â'r camau a gymerir i'w gwneud yn llai tebygol y byddant yn codi a/neu i leihau eu heffaith.  

Adolygwyd y ffordd y dylid nodi ac ymdrin â'r risgiau hyn gan Dîm Rheoli'r Arolygiaeth yn gynharach eleni. Penodwyd ymgynghorwyr i astudio gweithdrefnau rheoli risg yr Arolygiaeth yng ngoleuni arfer gorau mewn mannau eraill ac i wneud argymhellion; yn ogystal, cynhaliwyd cyfres o gyrsiau hyfforddi mewn rheoli risg ar gyfer rheolwyr yr Arolygiaeth. Gweithredir ar argymhellion yr ymgynghorwyr ar hyn o bryd.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English