Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/052.Niferoedd a chostau staffA. Mae costau staff yn cynnwys:
B. Roedd nifer y staff cyfwerth â llawn amser (gan gynnwys aelodau o'r Bwrdd) a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
C. Roedd cyflog a hawliadau pensiwn aelodau Bwrdd Rheoli'r Arolygiaeth fel a ganlyn:
Ni dderbyniodd unrhyw un o'r uchod daliadau mewn nwyddau. Mae cyflog yn cynnwys cyflog gros; tâl perfformiad neu fonysau; goramser; hawliau wedi eu cadw ar gyfer pwysoliad neu lwfansau Llundain; lwfansau recriwtio a chadw ac unrhyw lwfans arall i'r graddau ei fod yn destun trethiant yn y DU. PensiwnDarperir buddiannau pensiwn drwy drefniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Hydref 2002, gall gweision sifil fod yn rhan o un o dri chynllun buddiannau diffiniedig statudol 'cyflog terfynol' (clasurol, premiwm neu glasurol plws). Ni chaiff y cynlluniau eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Caiff pensiynau sy'n daladwy o dan y cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol plws eu cynyddu'n flynyddol yn unol â newidiadau i'r Mynegai Prisiau Manwerthu. Gall newydd-ddyfodiaid i'r cynllun ar ôl 1 Hydref 2002 ddewis bod yn aelod o'r cynllun premiwm neu ymuno â threfniant cyfranddeiliaid 'prynu arian' o ansawdd da sy'n cynnwys cyfraniad sylweddol gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth). Mae cyflogeion yn talu cyfraniadau ar gyfradd o 1.5% o enillion pensiynadwy ar gyfer y cynllun clasurol a 3.5% ar gyfer y cynllun premiwm a chlasurol plws. Mae buddiannau yn y cynllun clasurol yn crynhoi ar gyfradd o 1/80fed o gyflog pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn adeg ymddeol. Mae buddiannau'n crynhoi ar gyfradd o 1/60fed o gyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth yn y cynllun premiwm. Yn wahanol i'r cynllun clasurol, nid oes unrhyw gyfandaliad awtomatig (ond gall aelodau roi rhan o'u pensiwn heibio (gohirio) i ddarparu cyfandaliad), mae'r cynllun clasurol plws yn ei hanfod yn amrywiad o'r cynllun premiwm, ond caiff buddiannau mewn perth ynas â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 eu cyfrifo'n fras fel y cynllun clasurol. Mae'r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfranddeiliaid. Mae'r cyflogwr yn talu cyfraniad sylfaenol o rhwng 3% a 12.5% (yn dibynnu ar oedran yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai. Nid oes angen i'r cyflogai gyfrannu ond os byddant yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr yn cyfrannu 0.8% pellach o gyflog pensiynadwy hefyd i gwmpasu cost yswiriant buddiant risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad o ganlyniad i salwch). Ceir manylion pellach ar drefniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar y wefan www.civilservice-pensions.gov.uk Mae Colofnau 4 a 5 yn y tabl uchod yn dangos Gwerth Trosglwyddo Arian Parod Cyfatebol (CETV) a gronnwyd ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod dan sylw. Mae Colofn 6 yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a ariennir yn y bôn gan y cyflogwr. Mae'n ystyried cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddiannau a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad cyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod. Gwerth cyfalafog buddiannau'r cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol ac a aseswyd gan actiwari yw CETV. Y buddiannau a brisiwyd yw buddiannau cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol a ddelir gan eu priod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i ddiogelu buddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn eu cynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn nodi'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn ar ôl dod yn aelod llawn o'r cynllun pensiwn, nid dim ond eu gwasanaeth mewn swydd uwch y mae'r broses datgelu yn berthnasol iddo. Mae ffigurau CETV, ac o 2003/04 y manylion pensiwn eraill, yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiant pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall a drosglwyddwyd gan yr unigolyn i drefniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac y mae Pleidlais y Gwasanaeth Sifil wedi derbyn taliad trosglwyddo ar ei gyfer sy'n gymesur â'r rhwymedigaethau pensiwn ychwanegol a dybir. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiant pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu blynyddoedd ychwanegol o wasanaeth pensiwn yn y cynllun ar eu cost eu hunain. Cyfrifir CETV o fewn y canllawiau a'r fframwaith a ragnodir gan y Sefydliad a'r Gyfadran Actiwarïaid.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |