Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Targedau

Ceir crynodeb o berfformiad yr Arolygiaeth yn erbyn targedau yn Atodiad B. Cyflawnodd yr Arolygiaeth ei thargedau ar gyfer pob categori o waith achos, ac eithrio penderfynu ar apeliadau cynllunio yn Lloegr.

O ganlyniad i'r penderfyniad i leihau'r cyfnod apelio ar ddechrau'r flwyddyn roedd gan yr Arolygiaeth ôl-groniad o apeliadau cynllunio i benderfynu arnynt drwy gynrychioliadau ysgrifenedig. Gan fod yr Arolygiaeth yn ymdrin â'i gwaith apeliadau mewn trefn gronolegol fel arfer (hy yn fras penderfynir ar apeliadau yn y drefn y'u cyflwynir), roedd yn anochel y byddai bron yn amhosibl cyflawni'r targedau ar gyfer apeliadau cynllunio. Fel y digwyddodd, oherwydd y newidiadau amrywiol mewn gweithdrefnau a newidiadau eraill a wnaed (gan gynnwys gohirio'r Wythnos Hyfforddiant Flynyddol a arweiniodd at gwblhau 1,200 o ymweliadau safle ychwanegol), penderfynwyd ar lai na 7% o apeliadau drwy gynrychioliad ysgrifenedig o fewn y targed.

Mae gan yr Arolygiaeth darged mewnol o gyflawni 80% o adroddiadau o fewn 7 wythnos ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben. Yn ystod y flwyddyn darparwyd 64 o adroddiadau ar geisiadau a alwyd i mewn a 96 o adroddiadau ar apeliadau a adferwyd. O'r rhain, darparwyd 137 (85.6%) o fewn 7 wythnos.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English