Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05Gwaith yr Arolygiaeth ar gyfer cyrff cyhoeddus eraillYr Adran Drafnidiaeth/yr Asiantaeth Priffyrdd/awdurdodau lleolMae'r Arolygiaeth wedi parhau i gynnal ymchwiliadau i amrywiaeth o orchmynion ffordd, ar gyfer awdurdodau lleol a'r Asiantaeth Priffyrdd. Gostyngodd nifer yr ymchwiliadau i gefnffyrdd ar ran yr Asiantaeth yn Lloegr i 4 yn 2004/05 sef gostyngiad o 11 yn 2003/04. Cynyddodd nifer yr achosion ar ran awdurdodau lleol yn Lloegr o 3 gan wneud cyfanswm o 30 yn 2004/05. Bu 6 achos o dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithiau yn 2004/05, sef cynnydd o 4 o 2003/04, ac un Gorchymyn Diwygio Harbwr, sef gostyngiad o un o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yn ystod y flwyddyn paratowyd 4 adroddiad ar geisiadau o dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithiau neu mewn cysylltiad â hi. Ymhlith yr achosion nodedig yr ymdriniwyd â hwy o dan y Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae'r Porth Amlwytho arfaethedig ym mae Bathside, Essex a'r ailddatblygiad arfaethedig o Orsaf Trenau Tanddaearol Camden yn Llundain. Mae ymchwiliad Parc Cenedlaethol South Downs wedi dod i ben erbyn hyn. Mae'r Arolygydd wedi cyflwyno adroddiad interim ar egwyddorion dynodi ac mae'n debygol o gwblhau ei brif adroddiad manwl yn unol â'r targed erbyn diwedd 2005. Parhaodd yr Ymchwiliad i Wella'r A303 ger Côr y Cewri o 17 Chwefror i 11 Mai 2004 ac mae adroddiad yr Arolygydd wedi'i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)Yn ystod y flwyddyn cyflawnodd yr Arolygiaeth bob targed ar gyfer rhoi penderfyniadau ar apeliadau o dan adran 6 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("apeliadau mapio") yn ardaloedd mapio 3 - 7 Lloegr; mae'n debygol y bydd yr Arolygiaeth yn cwblhau'r 8 fed rhanbarth, sef yr olaf, ym mis Mehefin 2005 yn unol â'r targed. Mewn ymgynghoriad â chyrff statudol eraill, datblygwyd gweithdrefnau ar gyfer apeliadau cyfyngu a hysbysu (o dan adrannau 30 a 38 yn y drefn honno, y ddau fath newydd o waith i ddod i'r Arolygiaeth o dan y Ddeddf), ac mae Arolygwyr wedi cael eu hyfforddi ar yr apeliadau hyn. Daeth yr apeliadau cyfyngu cyntaf i law ym mis Awst 2004 a'r rhain oedd y math cyntaf o waith achos i fynd yn fyw ar y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio ac i'r manylion gael eu rhoi i'r cyhoedd a'r rhai â diddordeb drwy'r Porth Cynllunio (gweler Adran 9, paragraff 2 isod.) Ni chafwyd y cynnydd a ddisgwyliwyd mewn gwaith achos o ganlyniad i'r darpariaethau yn Rhan II Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 am i lawer o'r darpariaethau gael eu cyflwyno yn hwyrach nag a ragwelwyd neu am nad ydynt wedi'u gweithredu eto. Yn ogystal, bu rhai o'r darpariaethau newydd yn llai manteisiol nag a ddisgwyliwyd a defnyddir deddfwriaeth amgen yn eu lle. O ganlyniad penderfynodd awdurdodau lleol beidio â gwneud Gorchmynion. Y gobaith yw y bydd DEFRA yn cyflwyno Rheoliadau newydd ar reoli gweithdrefnau ymchwiliadau a gwrandawiadau yn ddiweddarach yn 2005.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |