Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05

Ein cenhadaeth, ein gwerthoedd a'n hamcanion

Mae cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion yr Arolygiaeth yn nodi ei chyfeiriad corfforaethol. Cânt eu rhaeadru i bob aelod o staff ac maent yn rhoi cyd-destun cyffredin i'w gwaith. Mae'r Adroddiad hwn yn disgrifio sut y mae'r gwaith a wnaed yn cyfrannu i'r genhadaeth honno.

Cenhadaeth yr Arolygiaeth yw:

Defnyddio ein harbenigedd diduedd mewn cynllunio a defnydd tir i helpu i lunio amgylcheddau wedi'u cynllunio'n dda.

Gwerthoedd yr Arolygiaeth yw:

Byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth drwy sicrhau y byddwn yn dilyn egwyddorion tegwch, bod yn agored a didueddrwydd wrth ymdrin â gwaith achos cynllunio a gwaith achos arall.

 Wrth baratoi ein penderfyniadau a'n hadroddiadau, byddwn yn ystyried: 

 a.    polisi cyhoeddedig - cenedlaethol, rhanbarthol a lleol;

 b.    materion cynllunio ac ystyriaethau perthnasol;

 c.     barn pob parti.

Amcanion corfforaethol yr Arolygiaeth yw :

  • Helpu i lunio amgylcheddau wedi'u cynllunio'n dda sy'n cyfrannu i gymunedau cynaliadwy drwy weithlu medrus, ymroddedig ac wedi'u hyfforddi'n dda sy'n gallu ymateb yn effeithiol i anghenion busnes newidiol.
  • Gosod y safonau ansawdd ar gyfer holl waith yr Arolygiaeth, a wneir gan yr Arolygiaeth, gan gynnwys archwiliadau o gynlluniau gofodol awdurdodau lleol.
  • Gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau i gyflawni targedau perfformiad.
  • Rheoli'r holl waith achos yn broffesiynol ac i safonau ansawdd.
  • Darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i gwsmeriaid.
  • Dylanwadu ar y broses o lunio polisi drwy adborth effeithiol.
  • Cysoni gwaith cynllunio busnes ac ariannol â'r amcanion.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English