Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2004/05Gwaith yr Arolygiaeth yng NghymruCynyddodd nifer yr apeliadau cynllunio a ddaeth i law yng Nghymru yn 2004/05 yn sylweddol o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Darlunnir hyn yn y graff yn ffigur 6.
Fodd bynnag, cyflawnwyd pob un o'r targedau a osodwyd gan weinidogion o dan yr holl weithdrefnau. Roedd hyn yn cynnwys y targed newydd ei gyflwyno ar gyfer cyflwyno adroddiadau i'r Cynulliad, y cyflwynwyd pob un ohonynt o fewn y targed. Rhoddwyd pob penderfyniad ar apeliadau mapio mynediad o ganlyniad i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 erbyn dechrau mis Ionawr 2005. Cyflwynwyd rheoliadau newydd ym mis Rhagfyr 2004 ar gyfer apeliadau mewn cysylltiad â chwynion am wrychoedd uchel. Paratowyd arweiniad a ffurflenni apelio. Dengys yr Adroddiad Blynyddol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg fod yr Arolygiaeth yn gwneud cynnydd da o ran cyflawni ei hymrwymiadau i'r cynllun Iaith Gymraeg. Recriwtiwyd dau aelod arall o staff sy'n siarad Cymraeg i'r tîm gweinyddol yn 2004/05 ac mae nifer o Arolygwyr yn parhau i ddilyn cyrsiau Cymraeg.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |