Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006

Dychwelwch nôl dudalen Cynnwys Dudalen nesaf

Rhagair gan y Gweinidog:

Ffotograff o Yvette Cooper

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005/6.  Mae'r Arolygiaeth yn chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno rhaglen ddiwygio'r Llywodraeth ym maes cynllunio ac fe'm calonogwyd gan ei hymateb i'r her honno.   

Bydd ein rhaglen ddiwygio yn creu system gynllunio sy'n ymateb yn gadarnhaol i amgylchiadau newidiol.  I'r Arolygiaeth, mae hyn yn golygu bodloni disgwyliadau cynyddol cwsmeriaid yn ogystal ag adlewyrchu blaenoriaethau'r Llywodraeth o ran polisïau.  Er enghraifft, amlygodd ein hymateb diweddar i Adroddiad Barker fod angen darparu mwy o dai ar frys ac arweiniodd at fy mhenderfyniad i orchymyn yr Arolygiaeth i roi blaenoriaeth i apeliadau cynllunio a allai wneud cyfraniad sylweddol i gynyddu'r ddarpariaeth ohonynt.

Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn wynebu heriau newydd a hoffwn ganmol ymdrechion pawb yn yr Arolygiaeth i wella cynhyrchiant drwy ffyrdd mwy effeithlon o weithio.  Mae'r Arolygiaeth wedi gwneud camau mawr ymlaen yn ddiweddar ac rwyf yn hyderus y bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Yvette Cooper
Y Gweinidog dros Dai a Chynllunio

Mehefin 2006 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English