Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006

Dychwelwch nôl dudalen Cynnwys Dudalen nesaf

Edrych i’r Dyfodol

Bydd 2006/07 yn flwyddyn heriol arall.  Rydym wedi ymrwymo i gyflawni pob un o'r targedau a bennwyd ar ein cyfer gan Weinidogion ar gyfer gwaith achos yn Lloegr erbyn diwedd y flwyddyn, tra'n parhau i'w cyflawni yng Nghymru, a pharhau i gyflawni ein rôl o fewn y system Fframweithiau Datblygu Lleol newydd, y disgwyliwn iddo gyflymu dros y 12 mis nesaf. 

Bydd yr ymdrech i sicrhau mwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn parhau ac, yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, rydym yn disgwyl gweld llawer o'r datblygiadau arloesol a'r gwelliannau a roddwyd ar waith gennym yn dwyn ffrwyth. Ein nod fydd sicrhau bod hyn yn digwydd gyda chydweithrediad llawn pob aelod o'n staff er budd pob un o'n cwsmeriaid.

Picture of a harbourRydym yn bwriadu chwarae rhan lawn yn y broses o ddatblygu'r agenda gynllunio ehangach.  Mae hyn yn golygu nid yn unig ymateb i flaenoriaethau Gweinidogion, ond hefyd defnyddio ein harbenigedd i roi adborth adeiladol ar sut y mae polisïau yn gweithio a ble y gellir gwneud gwelliannau pellach.  Rydym hefyd yn barod i chwarae ein rhan mewn datblygiadau tymor hwy a, thrwy ein Prif Weithredwr, rydym yn arwain yr Adolygiad Datblygu Caniatâd Deiliaid Cartrefi, sy'n ystyried ffyrdd o symleiddio'r gweithdrefnau ar gyfer ceisiadau ac apeliadau symlach.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English