Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006

Dychwelwch nôl dudalen Cynnwys Dudalen nesaf

Ein cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion

Mae cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion yr Arolygiaeth yn nodi ein cyfeiriad corfforaethol. Cânt eu rhaeadru i bob aelod o staff ac maent yn rhoi cyd-destun cyffredinol i’n gwaith. Yn sgîl ein profiadau yn ystod 2005/06, rydym wedi adolygu a mireinio ein cenhadaeth a'n hamcanion corfforaethol er mwyn sicrhau eu bod wedi'u halinio'n well â'r amgylchedd cynllunio newidiol.  

Ein Cenhadaeth yw -

Defnyddio ein harbenigedd diduedd mewn cynllunio a defnydd tir i helpu i lunio amgylcheddau wedi'u cynllunio'n dda a sicrhau datblygu cynaliadwy.

Ein Gwerthoedd yw -

Byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth drwy sicrhau ein bod yn dilyn egwyddorion tegwch, bod yn agored ac yn ddiduedd wrth ymdrin â chynllunio a gwaith achos arall a bod ein penderfyniadau a'n hadroddiadau yn ystyried:

  • Polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol cyhoeddedig;
  • Materion cynllunio ac ystyriaethau perthnasol;
  • Barn pob parti.

Ein Hamcanion Corfforaethol yw -

    1. Cynnal enw da'r Arolygiaeth Gynllunio drwy reoli ein holl waith yn broffesiynol a gosod y safonau ansawdd uchaf posibl i'w gyflawni;
    2. Gwneud y defnydd mwyaf cynhyrchiol o'n holl adnoddau i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid effeithlon ac effeithiol o ran ein holl waith achos; 
    3. Defnyddio ein harbenigedd i gynorthwyo'r broses ddiwygio barhaus ym maes Cynllunio drwy ddylanwadu ar y broses o lunio polisïau drwy adborth effeithiol;
    4. Cynnal a datblygu gweithlu hyfforddedig, medrus, amrywiol ac ymrwymedig a all ymateb i anghenion busnes newidiol;                                 
    5. Alinio gwaith cynllunio busnes a chynllunio ariannol i gyflawni ein hamcanion yn effeithlon, yn effeithiol a chan sicrhau'r gwerth gorau am arian a chyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd.

Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English