Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006

Dychwelwch nôl dudalen Cynnwys Dudalen nesaf

Yr hyn a wnawn

Apeliadau Cynllunio

Llun o ymweliad â safle

Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith, bron dwy ran o dair ohono, yn ymwneud â phenderfynu ar apeliadau cynllunio yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol i wrthod datblygiad o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. 

Yn 2005/06, daeth tua 22,000 o apeliadau cynllunio i law yng Nghymru a Lloegr.  Roedd hyn yn cynrychioli gostyngiad o tua 10% o gymharu â'r flwyddyn brysuraf ddiwethaf sef 2004/05 ond mae'n parhau i fod tua 25% yn uwch na'r nifer a ddaeth i law pedair blynedd yn ôl.  Ymhellach, tuag at ddiwedd 2005/06, dechreuodd tystiolaeth ddod i'r amlwg bod y duedd hirdymor, sef cynnydd yn nifer yr apeliadau, yn ailddechrau.

Dechreusom y flwyddyn yn wynebu canlyniadau'r cynnydd nas rhagwelwyd o ran yr apeliadau a ddaeth i law, a oedd wedi cynyddu tua 50% dros y pedair blynedd flaenorol.  Cafwyd ôl-groniad o tua 4,700 o achosion o gynrychioliadau ysgrifenedig, a waethygwyd gan effeithiau'r penderfyniad yn Lloegr, sydd wedi'i wrthdroi ers hynny, i leihau'r cyfnod y gellir gwneud apêl ynddo o chwech i dri mis yn ogystal â blaenoriaethau croes o ran adnoddau Arolygwyr. Ym mis Tachwedd 2004, roeddem wedi sefydlu Tasglu i ddelio â'r ôl-groniad hwn.  O ganlyniad i'r fenter hon, a gyfunwyd ag ystod o ddatblygiadau newydd o ran ein gweithdrefnau, dilëwyd yr ôl-groniad o fewn naw mis.

Gellir penderfynu ar apeliadau drwy gynrychioliadau ysgrifenedig, sy'n cyfrif am y gyfran fwyaf o gynrychioliadau, drwy wrandawiadau anffurfiol neu ar ôl ymchwiliad lleol cyhoeddus.  Mae Gweinidogion yn pennu cyfres o dargedau ar ein cyfer o ran gwneud penderfyniadau ar apeliadau cynllunio.  Gwelwyd gwelliant mawr yn ein perfformiad yn erbyn y targedau hynny yn 2005/06, er gwaethaf y pwysau a wynebwyd gennym, a chyflawnwyd y targed ar gyfer apeliadau drwy gynrychioliadau ysgrifenedig, er na chyflawnwyd y targedau ar gyfer apeliadau drwy wrandawiad nac ymchwiliad.  Cyflawnwyd pob targed o ran apeliadau cynllunio yng Nghymru

Achosion i'r Ysgrifennydd Gwladol

Mae cyfran sylweddol o'r achosion hynny y cynhelir ymchwiliad iddynt naill ai wedi eu 'galw i mewn' neu wedi'u hadfer er mwyn i'r Ysgrifennydd Gwladol (neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru) benderfynu arnynt oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol neu ranbarthol.  Fel arfer, mae'r achosion hyn yn rhai proffil uchel a reolir gan amserlenni statudol.   Yn ystod y flwyddyn, cyflwynodd yr Arolygiaeth 84.8% o adroddiadau Arolygwyr ar yr achosion hyn i'r Ysgrifennydd Gwladol o fewn saith wythnos i ddiwedd yr ymchwiliad neu'r ymweliad â'r safle, gan gyflawni'r targed a bennwyd ar ein cyfer gan Weinidogion.

Parc Bletchley

Ymhlith yr achosion y penderfynwyd arnynt o dan y gweithdrefnau hyn yn ystod y flwyddyn roedd datblygiadau preswyl sylweddol fel y rhai ar hen safle canolfan datrys codau'r Ail Ryfel Byd ym Mharc Bletchley; ehangu Stevenage i'r gorllewin; a datblygiadau glan yr afon yn Llundain fel gorsaf bŵer Lotts Road. Fodd bynnag, ni chaiff achosion a gyflwynir i'r Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eu cyfyngu i ddatblygiadau preswyl, yn hytrach maent yn cynrychioli'r ystod lawn o ddatblygiadau, gan gynnwys y lleoliad ar gyfer cerflun o Nelson Mandela yn Sgwâr Trafalgar, ardaloedd ar gyfer gwasanaethau traffordd ar yr M4, M40 a'r M25, nifer o safleoedd sipsiwn ac ymchwiliad agoriadol i'r broses o garthu mwynau morol oddi ar arfordir de Cymru.  Ymhlith yr achosion o bwysigrwydd economaidd sy'n mynd rhagddynt mae cynnig sy'n ymwneud â cheudyllau storio nwy Canatxx yn Fleetwood yn Swydd Gaerhirfryn, ffatri Quinn Glass yn Swydd Gaer ac ail derfynell ar gyfer maes awyr Cofentri.  Ymhlith yr achosion y disgwylir iddynt ddod i law yn 2006/07 mae cynigion i ehangu meysydd awyr Luton a Stansted a chronfeydd dŵr newydd yn Nyffryn Tafwys a Dwyrain Anglia.

Mae cynlluniau ynni adnewyddadwy bellach yn rhan sylweddol o'n gwaith. Tyrbinau Derryberry Yn ystod y flwyddyn, gwnaethpwyd penderfyniadau ar ffermydd gwynt mawr yn Little Cheyne Court, Caint; Scout Moor, Swydd Gaerhirfryn; a Whinash, Cumbria. Gwrthodwyd y cais olaf ond cymeradwywyd y ddau gyntaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant yn unol ag argymhellion yr Arolygwyr priodol.  Ar hyn o bryd, mae apêl a adferwyd sydd heb ei phenderfynu ar gyfer fferm wynt yn Hinckley Point. Mae hwn yn achos dadleuol gyda 7,000 o bartïon â diddordeb ac mae rhan o'i safle yn effeithio ar orsaf bŵer niwclear "Hinckley C" a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae ymchwiliad yn cael ei drefnu.

Mae'r penderfyniad i gynnal Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain hefyd yn creu gwaith i ni.  Agorodd ymchwiliad i'r gorchymyn prynu gorfodol (CPO), a hyrwyddwyd gan Asiantaeth Datblygu Llundain, i osod llinellau pŵer tanddaearol yn croesi safle'r Gemau Olympaidd, ar 10 Ionawr 2006 ac mae adroddiad yr Arolygydd wedi'i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant.  Agorodd yr ymchwiliad i'r gorchymyn prynu gorfodol i greu'r Parc Olympaidd ar 9 Mai 2006 yn Ardal y Dociau, Llundain a disgwylir iddo bara am wyth i ddeg wythnos.

Apeliadau gorfodi

Llun yn dangos garej ceir

Elfen arall, sylweddol o'n gwaith achos yw penderfynu ar apeliadau o dan a.174 o Ddeddf 1990 yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol i gymryd camau gorfodi yn erbyn achos honedig o dorri rheolaethau cynllunio.  Yn 2005/06, daeth tua 3,900 o apeliadau i law a chyflawnwyd y targedau a bennwyd gan Weinidogion ar gyfer achosion gorfodi a benderfynir drwy gynrychioliad ysgrifenedig neu ar ôl ymchwiliad a daethpwyd yn agos iawn at gyflawni'r targed ar gyfer achosion a benderfynir drwy wrandawiad. 

Rhoddir manylion ein targedau ar gyfer 2005/06 yng Nghymru a Lloegr yn Atodiadau A a B yn y drefn honno.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English