Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006

Pwy ydym ni

Mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn un o asiantaethau gweithredol Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu'r Arolygiaeth yn Asiantaeth Weithredol ers 1992 ond gellir olrhain ein hanes yn ôl i 1909.
Ein diben yw penderfynu ar ystod eang o apeliadau a gwaith achos arall o dan ddeddfwriaeth cynllunio, tai, yr amgylchedd a deddfwriaeth gysylltiedig. Ar wahân i Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym yn gwneud gwaith tebyg i adrannau eraill y Llywodraeth, yn enwedig Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’r Adran Drafnidiaeth (DFT).
Dyma Adroddiad Blynyddol yr Arolygiaeth ar gyfer 2005/06. Mae'n rhoi trosolwg o'n perfformiad yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2006: fe'i cyhoeddir yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r Adroddiad yn cynnwys ein Cyfrifon Blynyddol. Caiff ei ategu gan Adroddiad Ystadegol ar wahân, a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am y gwaith achos a wneir gennym. Caiff yr Adroddiad hwnnw ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Cafodd y Swyddfa ei hail-enwi'n Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) yn dilyn newidiadau gan y llywodraeth ym mis Mai 2006.
|