Adroddiad Blynyddol a Chyfrifion yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer 2005-2006Ein gwaith yng NghymruApeliadau Cynllunio a GorfodiGwelwyd cynnydd o bron 11% yn nifer yr apeliadau cynllunio a ddaeth i law yng Nghymru yn 2005/06 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ynghyd â chynnydd llai, 3%, yn nifer yr apeliadau gorfodi a ddaeth i law. Rhoddwyd 990 o benderfyniadau ar apeliadau cynllunio a 70 o benderfyniadau ar apeliadau gorfodi. Cyflawnwyd pob un o’r targedau a bennwyd gan Weinidogion o dan yr holl weithdrefnau, yn cynnwys y targed ar gyfer cyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mathau Eraill o Waith AchosAgorodd dau brif ymchwiliad i Orchmynion Prynu Gorfodol yn ystod y flwyddyn; Gorsaf Fysiau Abertawe a chanolfan siopa newydd ym Mhrestatyn yng Ngogledd Cymru. Cynhaliodd yr Arolygiaeth bedwar ymchwiliad i Orchmynion Ffordd hefyd. Aeth y tîm yng Nghymru ati i brosesu'r cais cyntaf ar gyfer carthu mwynau morol o dan weithdrefnau interim Barn y Llywodraeth.
Yn ogystal â chynnydd yn y gwaith a ddaeth i law, cyflwynwyd mathau newydd o waith achos yng Nghymru yn ystod 2005/6, yn cynnwys apeliadau Gwrychoedd Uchel, y derbyniwyd 12 ohonynt hyd yma. Yn dilyn y broses o drosglwyddo pwerau ar 1 Ionawr 2006, gall Arolygwyr bellach wneud penderfyniadau ar apeliadau a gyflwynir o dan Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd 2000 mewn perthynas â safleoedd/safleoedd tirlenwi yng Nghymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn dilyn y gwaith o gwblhau 470 o Apeliadau Mapio Mynediad ar amser o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2001, cafodd cefn gwlad Cymru ei agor i'r cyhoedd o 28 Mai 2005. Mae'r Arolygiaeth yng Nghymru hefyd yn ymdrin ag Apeliadau Cyfyngu a Hysbysu sy'n deillio o'r mapiau mynediad a baratowyd o dan y Ddeddf. Daeth chwe Apêl Cyfyngu i law yn ystod 05/06. Cafodd un ohonynt ei thynnu'n ôl, cafodd tair ohonynt eu gwrthod ac mae dau ohonynt yn cael eu hystyried o hyd. Cynhaliwyd 21 o ymchwiliadau hawliau tramwy a dau wrandawiad yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, ymdriniwyd â naw achos yn ymwneud â hawliau tramwy drwy gyfnewid cynrychioliadau ysgrifenedig ac ar ôl i Arolygydd ymweld â'r safle. Eleni, ymdriniwyd â dau orchymyn llwybr beiciau a wnaed o dan Ddeddf Llwybrau Beiciau 1984, i uwchraddio llwybrau troed yn llwybrau beiciau. Cynlluniau Datblygu Unedol a Chynlluniau Datblygu Lleol
Yn ystod y flwyddyn cwblhawyd chwe ymchwiliad i Gynlluniau Datblygu Unedol yng Nghymru. Fodd bynnag, fel y gwelwyd yn Lloegr, yn sgîl Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, cyflwynwyd system newydd o Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yng Nghymru i ddisodli Cynlluniau Datblygu Unedol ac, o dan y system newydd, rhaid i bob cynllun datblygu lleol gael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer cynnal archwiliad annibynnol. Bydd yn ofynnol i'r Arolygydd sy'n cynnal yr archwiliad hwnnw asesu pa un a yw'r cynllun cyffredinol yn gadarn yn hytrach nag ystyried gwrthwynebiadau unigol fel yn achos cynlluniau datblygu unedol. Rhoddir amserlen o bedair blynedd ar gyfer paratoi CDLl ac rydym yn disgwyl i'r archwiliad cyntaf gael ei gynnal ar ddechrau 2008. Gweithrediadau Cynaliadwy
Yn unol â dyletswyddau statudol y Cynulliad, ein nod yw sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori yn ein gweithrediadau ein hunain drwy, er enghraifft, lleihau ein dibyniaeth ar geir, a sicrhau hefyd bod egwyddorion datblygu cynaliadwy yn cael eu hystyried yn llawn o ran penderfyniadau ac argymhellion Arolygwyr.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |