Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Beth rydym yn ei wneud

Ein prif swyddogaeth yw prosesu apeliadau cynllunio a gorfodi a chynnal ymchwiliadau i gynlluniau datblygu lleol. Rydym hefyd yn delio ag amrywiaeth eang o waith achos arall sy'n gysylltiedig â chynllunio gan gynnwys a peliadau caniatâd adeiladau rhestredig, apeliadau hysbysebu, a chyflwyno adroddiadau ar geisiadau cynllunio y mae angen i Lywodraeth Cynulliad Cymru benderfynu arnynt, neu, Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog yn Lloegr, gorchmynion prynu gorfodol amrywiol, achosion hawliau tramwy ac achosion sy'n codi o Ddeddfau Diogelu'r Amgylchedd a Dwr a'r Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith. Yn ogystal rydym yn prosesu ceisiadau ar gyfer dyfarnu costau a allai godi o unrhyw un o'r rhain.

Disgrifir y gweithdrefnau ar gyfer yr amrywiol fathau o waith achos yn y taflenni unigol yr ydym yn eu cynhyrchu. Fodd bynnag, yr egwyddor sylfaenol yw y dylai pob parti gael cyfle teg i gyflwyno eu barn boed yn ysgrifenedig, neu mewn gwrandawiad cyhoeddus. Lle mae safle penodol yn gysylltiedig, fel arfer bydd yr Arolygydd a benodwyd i ddelio â'r achos, neu swyddog arall o'r Asiantaeth (yn dibynnu ar y math o achos) yn ymweld â'r safle. Bydd yr holl dystiolaeth a gyflwynir yn cael ei ystyried cyn y caiff penderfyniad ei wneud, a fydd hefyd yn ystyried polisi cyhoeddedig y llywodraeth. Yn y mwyafrif o achosion, gwneir y penderfyniad gan yr Arolygydd; mewn rhai eraill, bydd yr Arolygydd yn paratoi adroddiad ac yn gwneud argymhelliad i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu i'r Ysgrifennydd Gwladol.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English