Cenhedaeth, Gwerthoedd ac Amcanion yr ArolygiaethMae ein profiad yn ystod y flwyddyn wedi sicrhau ein bod yn gallu adolygu
a mireinio ein Cenhedaeth a'n Hamcanion Corfforaethol er mwyn sicrhau
y gellir eu cyflawni mewn amgylchedd cynllunio sy'n newid. Cenhadaeth yr ArolygiaethDefnyddio ein gwybodaeth arbenigol ddiduedd mewn cynllunio a defnydd tir er mwyn datblygu amgylcheddau sydd wedi'u cynllunio'n dda a sicrhau datblygu cynaliadwy. Ein GwerthoeddByddwn yn cyflawni ein cenhadaeth trwy sicrhau wrth ymdrin â chynllunio a gwaith achos arall y byddwn yn dilyn egwyddorion tegwch, bod yn agored a didueddrwydd. Wrth wneud penderfyniadau a pharatoi adroddiadau byddwn yn rhoi sylw i:
Ein Hamcanion CorfforaetholCadw enw da yr Arolygiaeth trwy reoli ein holl waith yn broffesiynol a thrwy osod y safonau uchaf er mwyn ei gyflawni; Defnyddio ein hadnoddau mor gynhyrchiol â phosibl er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i'r cwsmer; gyda phob gwaith achos; Defnyddio ein gwybodaeth arbenigol i gefnogi Diwygiadau i'r System Gynllunio trwy ddylanwadu ar y broses o lunio polisïau trwy adborth effeithiol; Cadw a datblygu gweithlu hyfforddedig, medrus, amrywiol ac ymrwymedig sy'n ymatebol i anghenion cyfnewidiol busnes; a cydlynu gwaith cynllunio ariannol a busnes er mwyn cyflawni ein hamcanion
yn effeithlon, yn effeithiol gyda'r gwerth mwyaf posibl am arian a'r effaith
amgylcheddol leiaf posibl. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |