Targedau perfformiad allweddol 2006/07 - Cymru - (Yn amodol ar gytundeb Gweinidogion)Prydlondeba, Penderfynu ar 80% o'r holl apeliadau cynllunio trwy gynrychioliadau ysgrifenedig o fewn 16 wythnos. b, Penderfynu ar 80% o'r holl apeliadau cynllunio trwy wrandawiadau o fewn 22 wythnos. c, Penderfynu ar 80% o'r holl apeliadau cynllunio trwy ymchwiliadau o fewn 30 wythnos. ch, Penderfynu ar 80% o’r holl apeliadau gorfodi trwy gynrychioliadau ysgrifenedig o fewn 32 wythnos. d, Penderfynu ar 80% o’r holl apeliadau gorfodi trwy wrandawiadau ac ymchwiliadau o fewn 43 wythnos. dd, Darparu Arolygydd ar gyfer ymchwiliadau cynlluniau datblygu mewn o leiaf 90% o achosion ar y dyddiad y gwneir cais amdano gan yr awdurdod lleol, ar yr amod nad yw'r cyfnod gwrthwynebu wedi dod i ben a bod o leiaf chwe mis o rybudd wedi ei roi. e, Cyflwyno 90% o adroddiadau’r Arolygwyr ar ymchwiliadau cynlluniau datblygu i awdurdodau lleol yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt o dan gytundebau gwasanaeth. f, Ar gyfer ceisiadau a alwyd i mewn ac apeliadau a adferwyd, cwrdd â'r amserlen unigol a bennwyd ar gyfer cyflwyno'r adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol (saith wythnos hyd at wyth diwrnod eistedd ymchwiliad; amserlen gytûn ar gyfer achosion mwy). AnsawddBodloni’r Panel Cynghori ar Safonau, ac felly’r Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn flynyddol ac yn dilyn monitro llym, bod safon uchel holl waith yr Arolygiaeth yn cael ei chynnal, a bod 99% o’i gwaith achos yn rhydd o gwynion wedi'u cyfiawnhau. GwybodaethCynnal arolwg boddhad cwsmeriaid o ran perfformiad yr Arolygiaeth a gweithredu ar y canlyniadau.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |