Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Y Côd Ymarfer ar Ganiatau i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth y Llywodraeth

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a’r Côd Ymarfer ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth y Llywodraeth.

Cafodd y cyhoedd fynediad llawn i wybodaeth yn 2005 drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn gwbl ôl-weithredol ac yn cwmpasu gwybodaeth a ddelir gan gyrff cyhoeddus a grëwyd cyn Ionawr 1 2005. Os ydych yn gwneud cais am wybodaeth ar ôl 1 Ionawr 2005 darllenwch ein tudalen Mynediad i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cyn Ionawr 1 2005 y Cod Ymarfer ar Fynediad i Wybodaeth y Llywodraeth, "Y Cod", oedd y weithdrefn fynediad ar gyfer gwybodaeth y Llywodraeth. Fe'i disodlwyd erbyn hyn. Mae'n bosibl gwneud cwynion i'r Ombwdsmon o hyd am geisiadau i weld gwybodaeth a wnaed o dan y cod pan oedd mewn grym.

Cefndir

Roedd y Cod yn ategu polisi'r Llywodraeth o ymestyn mynediad i wybodaeth swyddogol ac ymateb i geisiadau rhesymol am wybodaeth. Gellir cael copïau o'r Cod a'r Arweiniad ar Ddehongli drwy wefan y DCA.

Wrth ymdrin â chais am wybodaeth y rhagdybiad yn y Cod yw y dylai gwybodaeth gael ei darparu ar yr amod na fyddai datgelu'r wybodaeth er budd y cyhoedd a bod un neu fwy o'r 15 o eithriadau o fewn Rhan II y Cod yn berthnasol .

Nodau’r Côd yw:

  • gwella’r broses gwneud polisïau a’r broses ddemocrataidd trwy gynyddu mynediad i’r ffeithiau a dadansoddiadau sy’n darparu’r sail ar gyfer ystyried y polisi arfaethedig;
  • diogelu buddiannau unigolion a chwmnïau trwy sicrhau y rhoddir rhesymau dros benderfyniadau gweinyddol, ac eithrio pan fydd awdurdod statudol neu gonfensiwn sefydlog i’r gwrthwyneb;
  • cefnogi ac ehangu egwyddorion gwasanaeth cyhoeddus a sefydlwyd o dan Siarter y Dinesydd.

Cydbwysir y nodau gan yr angen i:

  • gynnal safonau gofal uchel wrth sicrhau preifatrwydd gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fasnachol gyfrinachol;
  • diogelu cyfrinachedd pan na fyddai datgelu gwybodaeth er lles y cyhoedd neu pan fyddai’n torri preifatrwydd personol neu gyfrinachau trydydd parti, yn unol â’r gofynion statudol a Rhan II y Côd.

Mae’r canlynol yn disgrifio sut y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithredu’r Côd.

Gwneud cais am Wybodaeth.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth nid oes angen i chi sôn am y Côd yn benodol yn eich cais. Caiff pob cais am wybodaeth ei drin yn unol â’r Côd, p’un a yw’r ymgeisydd yn ymwybodol o fodolaeth y Côd ai peidio. Nid oes angen gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig neu trwy e-bost, er y gall hyn helpu i osgoi camddealltwriaeth.

Darperir y rhan fwyaf o’r wybodaeth yn rhad ac am ddim, yn arbennig y canlynol:

  • safonau a pherfformiadau gwasanaethau;
  • y rhesymau dros benderfyniadau gweinyddol a wnaed yn eich achos;
  • sut y gallwch arfer eich hawliau i apelio neu gwyno;
  • ynglYn â phenderfyniad; neu ofynion rheoliadol sy’n effeithio ar eich busnes.

Fodd bynnag, ar gyfer ceisiadau mwy sylweddol sy’n gofyn am fwy o ymchwil neu efallai pan fydd angen copïo nifer fawr o ddogfennau, gall fod tâl i wrthbwyso costau i’r trethdalwr. Cyhoeddwyd arweiniad ar godi tâl am wybodaeth gan Adrannau’r Llywodraeth a chyrff eraill y goron gan Drysorlys EM. Fe’ch hysbysir gennym o unrhyw daliadau cyn i unrhyw waith ar eich cais ddechrau.

Ar hyn o bryd rydym yn codi tâl am gopïau o’n llythyrau penderfyniad apêl, er y darperir y rhain yn ddi-dâl pan fyddant yn dod ar gael yn electronig trwy’r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio trwy’r Porth Cynllunio.

Yr hyn a gwmpesir gan y Côd.

Mae gan y Côd bum ymrwymiad, sef:

  • darparu ffeithiau a dadansoddiad gyda phenderfyniadau polisi pwysig;
  • datgelu canllawiau mewnol ynghylch ymwneud adrannau â’r cyhoedd;
  • darparu rhesymau gyda phenderfyniadau gweinyddol;
  • darparu gwybodaeth o dan Siarter y Dinesydd am wasanaethau cyhoeddus;
  • faint maent yn ei gostio, targedau, perfformiad, cwynion ac iawndal;
  • ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Mae’r “Côd” yn cynnwys rhestr o eithriadau, gan ganiatáu dal yn ôl ddosbarthiadau eang o wybodaeth. Os ydych o’r farn bod eithriad wedi’i gymhwyso’n anghywir at eich cais am wybodaeth gallwch apelio.

Gwybodaeth Eithriedig.

Mae’r cod yn rhestru 15 dosbarth o wybodaeth eithriedig.

  • Gwybodaeth sy’n niweidiol i weithgarwch amddiffyn a diogelwch a chysylltiadau rhyngwladol;
  • Gwybodaeth y byddai ei rhyddhau yn niweidio diffuantrwydd trafodaethau mewnol; gan gynnwys manylion am drafodaethau’r cabinet; cyngor mewnol; amcanestyniadau a rhagdybiaethau yn ymwneud â dadansoddi polisi rhyngwladol; a dadansoddiadau o opsiynau polisi eraill neu opsiynau polisi a wrthodwyd;
  • Cysylltiadau â’r Teulu Brenhinol a thrafodaethau’r Cyfrin Gyngor;
  • Gwybodaeth a fyddai’n amharu ar weinyddu cyfiawnder neu achos cyfreithiol neu ymchwiliad cyhoeddus, gan gynnwys gwybodaeth a ystyriwyd yn y cyfryw achos neu sy’n debygol o gael ei hystyried ynddo; gwybodaeth yn ymwneud ag achos a gwblhawyd neu ag ymchwiliadau a allai fod wedi arwain at achos; gwybodaeth a gwmpesir gan fraint broffesiynol gyfreithiol; gwybodaeth a allai amharu ar y gwaith o atal neu ganfod trosedd neu ddal troseddwyr neu a allai amharu ar ddiogelwch adeiladau; gwybodaeth sy’n niweidiol i’r drefn gyhoeddus, diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch unigolyn neu a allai enwi hysbyswyr cyfrinachol; gwybodaeth a allai gynyddu’r posibilrwydd y caiff yr amgylchedd neu rywogaethau mewn perygl eu niweidio.
  • Gwybodaeth am fewnfudo, cenedligrwydd ac achosion clirio mynediad a fyddai’n niweidio rheolaethau mewnfudo;
  • Gwybodaeth a allai amharu ar y gwaith o reoli’r economi neu amharu ar gasglu trethi.
  • Gwybodaeth a fyddai’n niweidio safle cystadleuol neu drafodaethau adran neu a fyddai’n amharu ar reoli ei gweithrediadau yn gywir ac yn effeithiol;
  • Cofnodion personél a chofnodion archwilio;
  • Ceisiadau sy’n flinderus, yn amlwg afresymol, yn rhy gyffredinol neu y byddai angen dargyfeirio adnoddau yn afresymol i ymdrin â hwy;
  • Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi cyn hir neu y byddai ei rhyddhau’n “gynamserol mewn perthynas â chyhoeddiad arfaethedig”.
  • Dadansoddiad neu ymchwil anghyflawn a allai fod yn gamarweiniol pes cyhoeddid neu wybodaeth am gwmnïau neu gynhyrchion a ddelir at ddibenion ystadegol neu at ddibenion ymchwil neu iechyd a diogelwch neu arolygu bwyd;
  • Gwybodaeth bersonol y byddai ei rhyddhau yn ymyriad diesgus ar breifatrwydd;
  • Gwybodaeth a allai niweidio safle cystadleuol trydydd parti;
  • Gwybodaeth a ddarparwyd yn gyfrinachol gan drydydd parti nad yw wedi rhoi caniatâd i’w datgelu;
  • Gwybodaeth y gwaherddir ei datgelu gan y gyfraith neu gytundeb rhyngwladol neu a fyddai’n torri braint y Senedd.

Mynediad i Ddogfennau.

Nid oes unrhyw ymrwymiad y darperir dogfennau cynharach, yn wahanol i wybodaeth, mewn ymateb i geisiadau. Nid yw’r Côd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau gael gafael ar wybodaeth nad ydynt yn meddu arni, darparu gwybodaeth a gyhoeddwyd eisoes, na darparu gwybodaeth a ddarperir fel rhan o wasanaeth sy’n bodoli eisoes y codir tâl amdano ac eithrio trwy’r gwasanaeth hwnnw. Gallwch ofyn am ddogfennau os ydych o’r farn bod eu hangen arnoch, a gallwch herio unrhyw benderfyniad i wrthod eich cais. Efallai y byddwch am wneud cais am ddogfennau pan:

  • gallwch nodi dogfen benodol y gwyddoch ei bod yn bodoli;
  • rhoddwyd crynodeb o’r wybodaeth eisoes i chi ond mae angen mwy o fanylion, nad ydynt ar gael ond trwy edrych ar y ddogfennaeth wreiddiol (er enghraifft, i weld pa ffactorau a ystyriwyd wrth ddod i gasgliadau, neu i asesu’r fethodoleg);
  • bydd angen i chi weld dogfen am ryw reswm penodol arall – er enghraifft, am ei bod yn effeithio ar eich busnes personol yn uniongyrchol;
  • ryddhawyd y math hwn o ddogfennau yn y gorffennol;
  • byddwch o’r farn y bydd yn llawer haws rhyddhau dogfen na’i chrynhoi.

Dyddiad Cau ar gyfer Ymateb.

Ar gyfer ceisiadau syml dywed y Côd y darperir gwybodaeth fel arfer o fewn 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad y’u derbyniwyd yn yr Arolygiaeth Gynllunio. Os oes angen cryn dipyn o waith i ymateb i’ch cais gellir ymestyn y cyfnod o 20 niwrnod.

Hawl i Apelio.

Byddwn bob amser yn ceisio darparu ymateb adeiladol a chyflawn. Gallwch apelio os ydych yn anfodlon ar ein hymateb i’ch cais am wybodaeth. Mae’n rhaid i chi ofyn i ni adolygu ein penderfyniad ein hunain cyn y gallwch wneud cwyn i’r Ombwdsmon Seneddol trwy eich AS.

Nid yw’r person a fu’n gyfrifol am ddarparu’r ymateb gwreiddiol i’ch cais yn ymwneud â’r adolygiad o’n penderfyniad gwreiddiol. Pan fyddwch yn gofyn am adolygiad, rhowch eich rhesymau; eich bod o’r farn bod y penderfyniad gwreiddiol yn anghywir, bod y taliadau a godwyd yn afresymol, neu fod datgelu gwybodaeth yn bwysicach er lles y cyhoedd nag unrhyw niwed a achosid.

Er mwyn cael adolygiad annibynnol, ysgrifennwch at:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn:029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: wales@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

Terfyn Amser ar gyfer Adolygiadau.

Nid yw’r Côd yn nodi unrhyw derfynau amser ar gyfer adolygiadau. Byddwn yn ceisio ymdrin â phob adolygiad cyn gynted ag y bo modd.

Yr Ombwdsmon.

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad ein gweithdrefn adolygu gallwch ofyn i Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru ymchwilio i'r mater. Mae'n rhaid i chi ofyn i ni adolygu ein penderfyniad ein hunain cyn i chi fynd at yr Ombwdsmon. Mae gan yr Ombwdsmon y pwer i weld unrhyw ffeiliau perthnasol y Llywodraeth (heblaw am bapurau'r cabinet a phwyllgorau'r cabinet) a gall ymchwilio i gwynion o dan y cod.

  • Gellir gwneud cwynion ynghylch:
  • Unrhyw benderfyniad i ddal gwybodaeth yn ôl yr ymddengys nad oes unrhyw gyfiawnhad drosto o dan eithriadau’r côd;
  • Penderfyniad i ddal gwybodaeth eithriedig yn ôl pan fyddwch o’r farn ei bod yn hollbwysig datgelu’r wybodaeth honno er lles y cyhoedd;
  • Atebion yr ydych yn amau eu bod yn gamarweiniol, yn anghyflawn neu’n unochrog.
  • Methiant gweinidog, adran neu asiantaeth i gyhoeddi digon o’r ffeithiau a’r dadansoddiad a arweiniodd at benderfyniad pwysig neu gyhoeddiad polisi.
  • Methiant i roi rhesymau dros unrhyw benderfyniad sy’n effeithio arnoch, gan gynnwys unrhyw benderfyniad i gelu gwybodaeth.
  • Methiant i ddarparu mynediad i reolau, arweiniad a llawlyfrau mewnol sy’n effeithio ar ymwneud adran neu asiantaeth â’r cyhoedd neu â busnesau
  • Oedi afresymol cyn rhyddhau gwybodaeth, gan gynnwys yr amser a gymerwyd i adolygu penderfyniad cynharach.
  • Taliadau afresymol.

Preifatrwydd Personol a Cheisiadau am Wybodaeth.

Wrth wneud cais am wybodaeth gallwch ddarparu rhywfaint o ddata personol ar ein cyfer, gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a manylion cyswllt eraill. Byddwn yn gofyn am y data hwn i’ch helpu i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Ar ben hynny byddwn yn cadw ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i’n helpu i nodi tueddiadau cyffredinol, neu benodol o ran ceisiadau am wybodaeth i’n helpu i wella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ar eich cyfer. Ni ryddheir eich data personol i eraill ac nis defnyddir at ddibenion eraill chwaith.

Gweler ein Datganiad Preifatrwydd ar-lein am wybodaeth arall am y polisi diogelu data yn yr Arolygiaeth Gynllunio.

Beth am Wybodaeth Llywodraeth Leol?

Cyhoeddodd Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog bapur ymgynghori yn dwyn y teitl Caniatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth mewn Llywodraeth Leol ar 2 Medi 2002.

Mae’r papur hwn yn adolygu sut y dylai Cynghorau gydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cysylltiadau Perthnasol

Mae’r cysylltiadau isod yn agor eich porwr mewn ffenestr newydd.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English